Mae’r beiciwr o Gymru, Geraint Thomas yn dweud iddo wireddu breuddwyd ar ôl ennill Ras Ffordd Genedlaethol Prydain dros y penwythnos yn Pendle.
Fe arweiniodd y Cymro Team Sky i fuddugoliaeth fawr, wrth i’w gyd-aelodau Peter Kennaugh a Ian Stannard orffen yn ail ac yn drydydd.
Roedd Team Sky wedi bod ar y blaen drwy gydol y ras 180Km yn Lancashire, ac fe enillodd Thomas y ras yn y gwibiad olaf i’r llinell.
Fe orffennodd Geraint Thomas yn drydydd yn y ras yn 2008, ond mae ei fuddugoliaeth nawr yn golygu y bydd e’n gwisgo crys Pencampwr Cenedlaethol Prydeinig ar y Tour de France sy’n dechrau’r wythnos nesaf.
“Mae’n un o’r cystadlaethau mae pawb yn breuddwydio amdani – mae’n arbennig cael ennill,” meddai Geraint Thomas.
“Mae ennill yma wedi bod yng nghefn fy meddwl i erioed. Roeddwn i am gystadlu yn y Tour de France gyda’r tîm a chael gwisgo’r crys cenedlaethol.
“Mae’n anhygoel cael bod yn rhan o ras fwyaf y byd ac fe fyddai’n falch iawn cael cynrychioli Prydain – rydw i’n gwireddu breuddwyd,” ychwanegodd.