Mae Morgannwg wedi enwi’r un garfan 13 dyn a enillodd yn erbyn Middlesex dros y penwythnos i wynebu Gwlad yr Haf yn Taunton heno.
Fe fydd tîm Matthew Maynard yn awyddus am fuddugoliaeth arall at ôl ail-danio eu tymor gyda’r fuddugoliaeth yn Stadiwm SWALEC dydd Sadwrn.
Ond fe gollodd y Dreigiau yn erbyn Gwlad yr Haf y tymor diwethaf o ddeg wiced mewn gêm Ugain20.
Dim ond unwaith mae Morgannwg wedi ennill mewn chwe ymweliad â Taunton. Daeth y buddugoliaeth ddiwethaf yn 2004.
Ers hynny mae Morgannwg wedi colli pob tro a gobaith Jamie Dalrymple a’i dîm fydd dod â’r record yna i ben.
Dyw Shaun Tait ddim yn y garfan ar ôl iddo gael ei ddewis i chwarae i Awstralia yn y gyfres un dydd yn erbyn Lloegr.
Carfan Morgannwg
Jim Allenby, Mark Cosgrove, Jamie Dalrymple , Tom Maynard, Ben Wright, Gareth Rees, David Brown, Mark Wallace, Dean Cosker, Robert Croft, Chris Ashling, Huw Waters, Will Owen.