Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dweud ei fod yn canolbwyntio’n llwyr ar Gymru a Chwpan y Byd er gwaethaf diddordeb ynddo gan dimau eraill.
Mae Gatland wedi cael ei gysylltu gyda swydd Seland Newydd a chlwb y Waikato Chiefs, ac mae hyfforddwr Cymru wedi cyfaddef bod ganddo “rhai opsiynau” i’w hystyried.
Mae’r ddwy swydd uchod ar gael i Gatland i ymgeisio amdanynt yn 2012, tra bod rhai o glybiau Lloegr hefyd â diddordeb ynddo.
Ond mae Warren Gatland wedi dweud ei fod ond yn canolbwyntio ar arwain Cymru i Gwpan y Byd 2011 yn Seland Newydd.
“Mae gen i rai opsiynau ac rwy’n siŵr y bydd pethau wedi dod i drefn rhwng nawr a Chwpan y Byd,” meddai Gatland.
“Ond dydw i heb feddwl llawer am hynny am fy mod i’n gwbl ymroddedig i wneud job dda gyda Chymru. Mae hynny’n bwysig iawn i mi.”
Mae cytundeb presennol Gatland yn dod i ben blwyddyn nesaf ar ôl Cwpan y Byd ac mae ‘na sïon y bydd e’n symud ‘mlaen i her newydd.