Tommie Collins fu’n cymryd rhan yn Nhaith Sir Benfro, sy’n codi arian at Ambiwlans Awyr Cymru, gyda dros 500 o seiclwyr eraill…

Ar ôl bod yn beicio ers nifer o flynyddoedd penderfynais i gymryd rhan yn Nhaith Sir Benfro eleni.

Roeddwn yn edrych ymlaen at y gymryd rhan ers y flwyddyn ddiwethaf. Ond ar ôl gaeaf caled a dwy daith pum awr yn unig doedd yr hyfforddiant ddim yn mynd yn dda!

Ac roedd gwaeth i ddod – yng nghanol mis Ebrill fe ddioddefais i ddamwain yn y gwaith, a ges i glec ar fy llaw chwith.

‘Dim beicio’ meddai’r meddyg, yr union erioed nad oeddwn i eisiau eu clywed nhw.

Ta waeth bwrw yn fy mlaen gyda’r hyfforddiant wnes i – dim ar gefn beic, ond drwy gerdded a rhedeg am y chwe wythnos cyn y daith.

Er gwaethaf hynny i gyd fe fes i am daith tair awr ar y beic wythnos cyn y daith, ac roeddwn i’n teimlo’n dda. Hwyrach fod y cyfnod oddi ar y beic wedi gwneud lles i fi?

Y daith

Roedd y daith yn cychwyn yn gynnar yn y bore, am 7.30am. Fi a 600 o feicwyr eraill.

Roedd y tywydd yn braf i ddechrau ac roeddwn i’n teimlo’n dda wrth fynd i gyfeiriad mynyddoedd y Preseli.

Ond wrth gyrraedd Abergwaun a’r brêc cyntaf am fwyd a diod, daeth y glaw ac fe wnaeth hi fwrw’r holl ffordd i Dŷ Ddewi.

Lawr i Solfach a ni ac wedyn i lawr y rhiw fawr i Niwgwl.  Roeddwn i’n siomedig braidd ar ôl edrych ymlaen at y daith i lawr y rhiw, oherwydd ei bod hi’n llithrig ac yn beryg bywyd.

Erbyn hyn roedd fy nhraed, fy nghefn, fy ysgwyddau a fy llaw yn brifo. “Pam ydw i wedi gneud hyn?” gofynnais.

Ta waeth, erbyn cyrraedd Broad Haven roedd yr haul yn ei ôl.  Ges i sgwrs yn y stop diod yma â gŵr o sir Fôn yn siarad Cymraeg, ac yna i ffwrdd a fi am Bont Cleddau.  Rydw i wrth fy modd â phontydd , ac wedi beicio dros y Golden Gate Bridge ( ond stori arall ydi honno).

Dim ond 40 milltir oedd ar ôl  fynd rŵan, ac roeddwn i’n mynd yn ôl i gyfeiriad y môr nawr, tuag at Freshwater East.

Roedd yna riw fawr serth arall, ac roedd hi’n rhy hir ac yn rhy serth, ac roeddwn i wedi blino, felly roedd rhaid i fi stopio a cherdded.  Doedd gen i ddim cywilydd!

Doedd dim llawer o’r daith ar ôl wedyn, drwy Ddinbych y Pysgod, i fyny’r rhiw fawr ac i lawr mewn i Saundersfoot.

Roedd yna dorf eithaf da yna i’n cymeradwyo ni, a phowlen fawr o gawl a diod o ddŵr. Roedd hi’n daith galed iawn ond roeddwn i’n teimlo’n dda ar ôl ei gorffen hi!

Roeddwn i’n bles iawn, o ystyried nad oeddwn i wedi beicio ers 6 wythnos, ac wedi cwblhau ras 122 milltir mewn 9 awr 51 munud.

Taith y Mynyddoedd Duon  amdani tro nesaf!