Mae cwmni drilio am olew wedi dod o hyd i un o’r darganfyddiadau mwyaf o olew yn Môr y Gogledd oddi ar arfordir yr Alban.

Dywedodd Encore Oil eu bod nhw wedi dod o hyd i 300 miliwn baril o olew oddi ar arfordir dwyreiniol y wlad, ond fe allai mwy o ymchwil “ychwanegu’n arwyddocaol” at hynny.

Dyna fyddai’r darganfyddiad mwyaf o olew yn Môr y Gogledd ers cronfa olew biliwn o farilau Buzzard oddi ar Aberdeen yn 2001.

Dywedodd prif weithredwr Encore Oil ei fod o’n ddarganfyddiad “eithriadol”.

“Mae’r data seismig yn awgrymu y gallai gynnwys un o’r casgliadau mwyaf o olew yn môr y gogledd.”

Mae’r darganfyddiad yn debygol o gynyddu diddordeb cwmni olew yn Môr y Gogledd ar adeg pan mae’r cynhyrchwyr mawr yn dechrau canolbwyntio ar Orllewin Affrica, Brasil ac Awstralia.

Mae drilio am olew ym Môr y Gogledd wedi bod ar drai ers 1999.

Mae plaid yr SNP yn honni y byddai gan lywodraeth Holyrood £1.3 biliwn dros ben bob blwyddyn pe bai’r wlad yn annibynnol ac yn cael ei siâr o’r olew sydd oddi ar arfordir y wlad.