Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi dweud ei bod hi’n ymroddedig i dorri nifer y mewnfudwyr sy’n dod i mewn i Brydain.
Fe fydd hi’n cyhoeddi cyfyngiad tymor byr ar fewnfudwyr sy’n dod i’r wlad o du allan i’r Undeb Ewropeaidd er mwyn atal “ymchwydd” yn nifer y ceisiadau cyn cyflwyno cyfyngiad parhaol mis Ebrill nesaf.
Dim ond 34,100 o weithwyr o du allan i Ewrop fydd yn cael dod i fyw yn y wlad cyn mis Ebrill 2011 – cwymp o 5% ar y llynedd.
Dywedodd Theresa May mai un syniad yn unig sydd dan ystyriaeth gan y Llywodraeth er mwyn lleihau mewnfudo i’r wlad i’r “degau o filoedd” yw’r cyfyngiad.
“Mae’r cyfyngiad dros dro yn angenrheidiol er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael ymchwydd mawr o bobol yn dod i mewn i’r Deyrnas Unedig cyn bod y cyfyngiad parhaol yn ei le,” meddai wrth raglen Today Radio 4.
“Ein nod ni yw dod a mewnfudo i lawr o gannoedd o filoedd i ddegau o filoedd. Mae yna sawl ffordd y bydden ni’n gwneud hynny.”
Gwrthododd Theresa May yr awgrym fod yna ychydig iawn y gallai’r Llywodraeth ei wneud i leihau mewnfudo oherwydd bod y mwyafrif yn dod o’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd bod dros hanner – 52% – y mewnfudwyr i Brydain yn dod o du allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd nad oedd hi’n cytuno gyda’r gosodiad bod lleihau nifer y mewnfudwyr yn gwneud niwed i economi’r wlad.
Mae’n debyg bod rhai Ceidwadwyr blaenllaw wedi codi pryderon ynglŷn ag effaith lleihau nifer y mewnfudwyr i Brydain ar allu busnesau i recriwtio’r bobol y maen nhw eu hangen.
“Does neb yn awgrymu bod Awstralia neu’r Unol Daleithiau neu Seland Newydd yn dioddef o ganlyniad i’w cyfyngiadau nhw ar fewnfudwyr ac yn methu cael y bobol gyda sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw,” meddai.