Ffrwydrodd tryc nwy yn ne Pacistan heddiw, gan ladd 18 o bobol ac anafu 40 arall.
Dywedodd yr heddlu bod y tryc wedi ffrwydro yn storfa dinas Hyderabad. Mae’n debyg mai damwain oedd y ffrwydrad.
Dangosodd sianeli newyddion teledu’r wlad cannoedd o bobol yn tyrru o amgylch ble’r oedd y tryc wedi ffrwydro.
Roedd nifer ohonyn nhw’n chwilio drwy’r rwbel am bobol oedd wedi eu lladd neu eu hanafu.
Dywedodd y pennaeth heddlu lleol, Fayyaz Leghari, mai’r gwres oedd yn gyfrifol yn hytrach na therfysgaeth.
“Cafodd y ffrwydrad ei achosi gan y cemegau oherwydd y gwres,” meddai wrth Sky News. “Does dim tystiolaeth ei fod o’n fom neu’n ymosodiad terfysgol.”