Mae AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi dweud ei fod yn “croesawu’n fawr” cynllun y Ceidwadwyr i dynhau’r rheolau ar bapurau newydd am ddim cynghorau lleol.

Dros y penwythnos dywedodd Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth San Steffan, Eric Pickles, na ddylai papurau newydd annibynnol wynebu cystadleuaeth gan “bropaganda” cynghorau lleol.

Yn gynharach eleni roedd Rhodri Glyn Thomas wedi beirniadu Cyngor Sir Caerfyrddin am hysbysebu yn y papur eu hunain yn hytrach na’r Carmathen Journal.

“Dw i’n croesawu hyn yn fawr,” meddai Rhodri Glyn Thomos wrth Golwg360.

“Mae papurau lleol yn eithriadol o bwysig yn arbennig o ran cadw golwg ar lywodraeth leol,” meddai.

“Dw i wedi codi’r peth â Rhodri Morgan ac Andrew Davies eisoes ac roedd y ddau yn cytuno â fi. Dw i’n falch bod rhywbeth nawr yn cael ei wneud.

“Mae’n iach fod cyrff etholedig yn cael eu cwestiynu o bryd i’w gilydd.”

Mae papurau newydd sy’n cael eu hariannu gan gynghorau wedi dod yn fwy cyffredin dros y blynyddoedd diwethaf, tra bod papurau annibynnol wedi gweld cwymp mewn gwerthiant a hysbysebion.

Eisoes, mae Eric Pickles wedi dweud fod papurau Cyngor yn “gwastraffu arian y trethdalwr ac ychwanegu at y post sothach sy’n dod drwy’r drws” yn ogystal â “tanseilio’r wasg annibynnol”.