Mae un person wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llanelwy yn ystod oriau mân y bore, heddiw.
Fe gafodd y Gwasanaethau Brys yn galw i’r tŷ yn stryd Llwyn Elwy’r dref am 2:37am bore ma.
Fe fu dau griw tân o Rhyl, un o Lanelwy ac un o Abergele yn brwydro’r fflamau. Diffoddwyd y tân ond daeth y gwasanaethau brys o hyd i gorff yn y tŷ.
Nid y’n amlwg beth achosodd y tan eto. Mae Heddlu Gogledd Cymru ynghyd â’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac yn ymchwilio i’r achos ar hyn o bryd.