Bydd awgrym Llywodraeth San Steffan y dylai pobol ddi-waith symud i ardaloedd eraill yn niweidiol i’r iaith, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Dros y penwythnos awgrymodd y Llywodraeth y dylai’r tlawd fod yn fwy parod i symud o ardaloedd lle nad oedd gwaith i ardaloedd ble’r oedd gwaith ar gael.
Awgrymodd y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, fod gan Brydain “weithlu mwyaf statig y byd gorllewinol”.
Dywed fod gweinidogion yn awyddus i annog pobl ddi-waith sy’n byw mewn tai cyngor i symud o ardaloedd o ddiweithdra uchel i ardaloedd eraill – a allai fod gannoedd o filltiroedd i ffwrdd.
‘Dinistrio’
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y gallai’r syniad “ddinistrio cymunedau Cymraeg eu hiaith”.
“Mae llawer o’n cymunedau iaith Gymraeg yn dioddef o ddiffyg cyfleoedd gwaith difrifol ar gyfer pobl ifanc,” meddai Cadeirydd y Gymdeithas, Menna Machreth.
“Ymddengys bod y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau rhwygo’r cymunedau hyn wrth annog pobl i symud i ardaloedd eraill i chwilio am waith, ac felly’n chwyddo problem sydd eisoes yn argyfyngus.
“Mae cau gwasanaethau cymunedol fel ysgolion hefyd yn golygu nad ydi teuluoedd yn debygol o godi aelwyd mewn cymunedau iaith Gymraeg ac felly bydd y cymunedau hyn yn colli eu bywyd.”