Mae Prif Weinidog newydd Awstralia wedi awgrymu ei bod hi’n mynd i alw etholiad newydd o fewn y ddeufis nesaf.

Penderfynodd Julia Gillard, gafodd ei geni yn y Barri yng Nghymru, beidio â dyrchafu unrhyw weinidogion newydd i’w Chabinet.

Dywedodd Norman Abjorensen, arbenigwr ar wleidyddiaeth y wlad o Brifysgol Genedlaethol Awstralia, bod y penderfyniad yn brawf y bydd yna etholiad cyn hir.

Does dim pwynt dyrchafu gweinidogion newydd dibrofiad ychydig wythnosau cyn mynd i’r wlad, meddai.

Mae’n disgwyl etholiad ar Awst 28, pe bai’r cynnydd ym mhoblogrwydd y llywodraeth ers disodli Kevin Rudd yn cael ei gynnal dros yr wythnosau nesaf.

“Rydw i wedi newid cyn lleied â phosib ar y Cabinet fel bod y tîm yn gallu canolbwyntio ar waith y Llywodraeth,” meddai.

Disodlodd Julie Gillard ei rhagflaenydd Kevin Rudd er mwyn cymryd awenau’r Blaid Lafur dydd Iau diwethaf.

Penderfynodd nad oedd lle i Kevin Rudd yn y Cabinet ar hyn o bryd, ond mae hi wedi dweud ei fod o’n debygol o ddychwelyd pe baen nhw’n ennill yr etholiad.