Dyw hyfforddwr tîm pêl-droed Lloegr ddim yn siŵr a fydd yn cadw ei swyddi ar ôl i Loegr gael eu chwalu 4 – 1 gan yr Almaen yng Nghwpan y Byd De Affrica, ddoe.

Dyna’r chwalfa fwyaf mae Lloegr wedi ei ddioddef erioed mewn Cwpan y Byd a’r grasfa fwyaf gen eu hen elynion yr Almaen.

Fe fydd Fabio Capello yn cwrdd â Cadeirydd Club England, Syr David Richards, er mwyn penderfynu a fydd o’n cadw ei swydd.

“Rydw i eisiau siarad gyda’r Cadeirydd a phenderfynu fy nyfodol wedyn,” meddai Fabio Capello. “Rydw i eisiau gwybod oes gen i ffydd yr FA ai peidio.”

Dywedodd nad oedd o wedi ystyried ymddiswyddo.

Yn ôl ffynonellau o fewn Club England, maen nhw’n dal i gredu mai Fabio Capello yw’r dyn i arwain Lloegr er gwaethaf perfformiad echrydus y tîm yng Nghwpan y Byd.

Roedd Fabio Capello wedi honni y byddai ei dim yn cyrraedd gêm derfynol Cwpan y Byd. Ond dim ond un gêm mewn pedwar enillodd Lloegr, yn erbyn Slofenia dydd Mercher.

Mae Fabio Capello wedi ei feirniadu am ei dactegau anhyblyg, wrth i rai cefnogwyr ddweud ei fod o’n rhy hen ffasiwn.

Mae eraill yn dweud bod Lloegr wedi chwarae yn dda dan ei reolaeth cyn Cwpan y Byd ac mai bai’r chwaraewyr oedd y cawlach yn erbyn yr Almaen.

Fe fydd yr Almaen yn wynebu’r Ariannin yn rownd yr wyth olaf.