Mae twristiaeth ar lan yn môr yn fyw ac yn iach yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan academyddion heddiw.
Yng Nghymru yn unig mae 20,000 o bobol yn cael eu cyflogi yn y diwydiant, sy’n dal i dyfu wrth i fwy o bobol benderfynu fynd ar wyliau ym Mhrydain yn hytrach nag mynd dramor.
Ond mae gan Blackpool yn Lloegr bron a bod cymaint o swyddi yn y diwydiant a Chymru gyfan.
Yn ôl adroddiad gan Brifysgol Sheffield Hallam mae twristiaeth lan y môr yn cyflogi cymaint o bobol a’r sector telathrebu gyfan.
Ar draws Prydain mae’r diwydiant yn cyflogi mwy o bobol na’r diwydiant ceir, awyrennau, fferyllol neu haearn, yn ôl yr adroddiad.
Dywedodd Peter Hampson, o Gymdeithas Gwyliau Prydain, ei fod o’n brawf nad ydi twristiaeth glan môr Prydain yn “wedi dirywio”.
“Mae pobol sy’n dilyn hynt a helynt y diwydiant yn gwybod nad oedd hynny’n wir ac mae gyda ni’r dystiolaeth i brofi hynny erbyn hyn,” meddai.
“Mae pobol wedi wfftio’r diwydiant twristiaeth glan môr yn rhy aml, ac mae’r adroddiad yma’n dangos ei fod o’n gryfach na’r disgwyl.”
£3.6 biliwn
Mae’r adroddiad yn edrych ar 121 o drefi arfordirol ledled Prydain ac yn dod i’r casgliad bod:
• Y diwydiant twristiaeth glan môr yn cyflogi tua 210,000 o bobol a bod nifer o swyddi eraill yn cael eu cefnogi’r anuniongyrchol gan dwristiaeth.
• Blackpool yng ngogledd-orllewin Lloegr sydd â’r nifer mwyaf o swyddi yn y diwydiant twristiaeth glan mâr, sef mwy nag 19,000.
• Mae dros 58 o drefi unigol yn cynnwys o leiaf 1,000 o swyddi yn y diwydiant twristiaeth.
• Ers y 90au mae nifer y swyddi yn y diwydiant twristiaeth glan môr wedi cynyddu tua 1% y flwyddyn.
• Mae’r diwydiant twristiaeth glan môr werth tua £3.6 biliwn y flwyddyn.
“Mae’n newyddion da bod y diwydiant twristiaeth glan mor wedi goroesi a thyfu – nid yn unig i drefi glan môr ond i’r economi yn ei gyfanrwydd,” meddai’r Athro Steve Fothergill.
“Mae twristiaeth a hamdden yn ddiwydiant sy’n tyfu. Mae ein ffigyrau ni’n dangos bod trefi glan môr Prydain yn gwneud yn dda er gwaetha’r ffaith eu bod nhw’n wynebu lot o gystadleuaeth o dramor.
“Fe ddylai’r Llywodraeth wneud eu gorau i sicrhau bod y diwydiant yn dal i dyfu dros y blynyddoedd nesaf.”
(Llun: Cei Newydd – Llinos Dafydd)