Mae gwynt o’r gorllewin wedi cadw’r tymheredd i lawr yng Nghymru heddiw wrth i dde a dwyrain Lloegr brofi diwrnod poetha’r haf hyd yma.

Cododd y tymheredd i dros 30 gradd C (86 gradd F) yn ne-ddwyrain Lloegr, a oedd yn boethach nag mewn amryw o leoedd ar y Môr Canoldir.

Roedd tymheredd tua 10 gradd C yn is ar gyfartaledd yng Nghymru fodd bynnag ac fe fu rhywfaint o gawodydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Y diwrnod poethaf cyn heddiw ym Mhrydain oedd Mai 24, pryd y cyrhaeddodd y tymheredd 28.8 gradd C ym maes awyr Heathrow.

Yn ôl yr arbenigwyr tywydd MeteoGroup, mae disgwyl y bydd y tymheredd yn gostwng ychydig ar ôl heddiw, gyda glaw’n cael ei ddarogan am nos yfory.

Er i Gymru osgoi’r gwres mwyaf heddiw, dywed Asiantaeth yr Amgylchedd ein bod ni’n cael yr haf sychaf ers 1976, a bod lefelau bron bob afon a llawer o gronfeydd dŵr yn sylweddol is na’r hyn sy’n arferol yr adeg yma o’r flwyddyn.

Llun: Y tywydd sych yn dangos ei ôl ar gronfa ddŵr Pontsticill ym Mannau Brycheiniog – nid yw ond tua 70-80% llawn ar hyn o bryd.