Mae Lloegr allan o Gwpan y Byd ar ôl i’r Almaen eu curo 4-1 yn Bloemfontein y prynhawn yma.

Cafodd yr Almaen fuddugoliaeth rwydd yn sgil dwy gôl gan Thomas Muller, ac ergydion gan Miroslav Klose a Lukas Podolski, gan sicrhau lle yn rownd go-gynderfynol Cwpan y Byd.

Matthew Upson a sgoriodd unig gôl Lloegr. Cafodd gôl arall gan Frank Lampard yn fuan wedyn ei gwrthod gan y dyfarnwr.

Er bod cefnogwyr Lloegr yn flin â phenderfyniad y dyfarnwr, roedd dwy gôl Muller yn yr ail hanner yn golygu na fyddai dim wedi newid y canlyniad.

Hwn oedd y canlyniad gwaethaf erioed i Loegr yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Llun: Rhai o gefnogwyr Lloegr yn gwylio’r gêm mewn anobaith ar sgrin fawr yn Leeds y prynhawn yma (John Giles/Gwifren PA)