Mae’r heddlu wedi arestio dros 500 o bobl ar ôl helyntion y tu allan i uwch-gynhadledd economaidd gwledydd y G20 yn Toronto, Canada.
Roedd carfan o brotestwyr mewn du wedi torri’n rhydd oddi wrth dorf o brotestwyr heddychlon gan roi cerbydau heddlu ar dân a malu ffenestri â batiau pêl fas a morthwylion.
Fe fu’r heddlu’n defnyddio tariannau, pastynnau, nwy dagrau a chwistrelli pupur i wthio’r garfan fwy milwriaethus o brotestwyr gwrth-globaleiddio a oedd yn ceisio mynd trwy’r ffens diogelwch sydd y amgylch safle’r uwch-gynhadledd. Roedd rhai o’r protestwyr yn taflu poteli at yr heddlu.
“Dydyn ni erioed wedi gweld y fath droseddu a fandaliaeth a dinistr ar ein strydoedd,” meddai pennaeth heddlu Toronto, Bill Blair.
Llun: Prif Weinidog Canada, Stephen Harper, yn siarad gydag Arlywydd America, Barack Obama, yn ystod cyfarfod llawn o’r uwch-gynhadledd yn Toronto heddiw (AP Photo/The Canadian Press, Sean Kilpatrick)