Mewn refferendwm heddiw, mae pobl Kyrgyzstan yng nghanolbarth Asia wedi pleidleisio o blaid cyfansoddiad newydd.
Wrth groesawu’r canlyniad, dywedodd arlywydd dros dro’r wlad, Roza Otunbayeva, y bydd hyn yn galluogi Kyrgyzstan i ffurfio llywodraeth gyfreithlon ar ôl misoedd o gythrwfl.
Yn ogystal ag arwain y ffordd at etholiadau seneddol yn yr hydref, dywedodd ei bod yn gobeithio bod y bleidlais yn cyfreithloni ei llywodraeth hi yn y cyfamser.
Dywedodd fod y ganran a bleidleisiodd dros 65% ac na fu unrhyw helyntion.
Digwyddodd y bleidlais wythnosau ar ôl i drais ac anhrefn ladd cymaint â 2,000 a gorfodi 400,000 o bobl o dras Uzbek i ffoi.
Llun: Gwraig o dras Uzbek yn bwrw ei phleidlais mewn gorsaf bleidleisio yn ninas Osh yn ne Kyrgyzstan, yn y refferendwm heddiw (AP Photo/Sergei Grits)