Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi heddiw y bydd bron i fil o bobol yn gorymdeithio drwy dref Wrecsam fel rhan o ddathliadau cyhoeddi Eisteddfod 2011.
Dywedodd yr wyl bod maint y seremoni, fydd yn cynnwys Gorsedd y Beirdd, yn “arwydd clir o’r gefnogaeth a’r brwdfrydedd sy’n bodoli yn ardal Wrecsam” wrth i’r Eisteddfod agosau.
Fe fydd y seremoni gyhoeddi yn cael ei gynnal dydd Sadwrmn 3 Gorffennaf.
“Yn ogystal â’r seremoni draddodiadol, bydd canol y dref yn cael ei thrawsnewid gyda llwyfan yn cael ei osod, er mwyn rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu doniau a chroesawu’r Eisteddfod i’w bro mewn ffordd arbennig iawn,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.
“Bydd cyfle hefyd i grwydro nifer o wahanol stondinau, gyda phob math o fudiadau a chymdeithasau’n cymryd rhan er mwyn creu diwrnod arbennig i’w gofio i bawb o bob oed.”
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mlaenau Gwent eleni, cyn symud ymlaen i Wrecsam y flwyddyn nesaf.
“Rydym yn falch iawn bod cynifer o bobl a chymdeithasau wedi ymateb i’r gwahoddiad a yrrwyd at ysgolion lleol, clybiau a chymdeithasau,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
“Bydd hon yn orymdaith i’w chofio. Gobeithio y bydd 3 Gorffennaf yn ddiwrnod arbennig i’r teulu oll, ac y gallwn roi rhagflas i bobl Wrecsam a’r Fro o’r hyn sydd i ddod yn ystod mis Awst y flwyddyn nesaf.”
Bydd y seremoni yn dechrau am 10.00 y bore pan fydd y perfformiadau’n cychwyn ar y llwyfan yng nghanol y dref.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn tua 14.00 o Lwyn Isaf ac yn dilyn strydoedd di-draffig Wrecsam, gan ddychwelyd i Lwyn Isaf a Cherrig yr Orsedd erbyn tua 15.00 lle cynhelir seremoni’r Cyhoeddi.
Cynhelir yr Eisteddfod ar dir Fferm Bers Isaf, Wrecsam o 30 Gorffennaf – 6 Awst 2011.