Mae David Cameron wedi cyrraedd ei gynhadledd G8 cyntaf ers iddo ddod yn Brif Weinidog gan rybuddio bod yn rhaid iddo fod yn fwy nag “siop siarad”.
Dywedodd y “newyddian”, yn ei eiriau ei hun, fod angen canolbwyntio ar faterion fydd yn berthnasol i bobol gartref fel masnach, cymorth dyngarol a’r economi fyd eang.
Ychwanegodd fod yna lot o heip cyn cyfarfodydd y G8 yn y gorffennol ond nad oedden nhw wedi llwyddo i ddod i unrhyw gasgliad pendant yn y pen draw.
Mae’r cyfarfodydd G8 a G20 yng Nghanada’r wythnos hon yn dod wrth i wledydd blaenllaw’r byd anghytuno ynglŷn â sut i ddod a’r dirwasgiad i ben.
Mae nifer o wledydd Ewrop bellach yn ffafrio torri’r diffyg ariannol mor gyflym â phosib, tra bod gwledydd eraill fel yr Unol Daleithiau yn ofni y bydd toriadau cyflym yn arwain at ddirwasgiad arall.
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n pwyso ar aelodau eraill y G8 a’r G20 i ddod a’u cyllid dan reolaeth, fel y mae George Osborne wedi addo ei wneud yn ei Gyllideb dydd Mawrth.
“Yn aml iawn dyw’r cyfarfodydd rhyngwladol yma ddim yn cadw at yr addewidion a wnaethpwyd o flaen llaw. Rydw i’n siŵr y byddai’r arweinwyr eraill yn cydnabod hynny,” meddai mewn erthygl ym mhapur newydd Globe and Mail Canada.
“Mae yna lot fawr o arian yn cael ei wario ar y cyfarfodydd. Mae’r ddinas sy’n eu trefnu nhw yn cael ei aflonyddu am wythnosau.
“Ond rywsut dyw’r arweinwyr byth yn gweithredu ar y bwriad. A pan ydan ni’n cyfarfod eto blwyddyn yn ddiweddarach dyw pethau heb symud ymlaen.
“Os ydyn ni’n mynd i wneud gwahaniaeth, mae angen canolbwyntio ar gyflawni rywbeth.”
Fe fydd arweinwyr y G8 – Prydain, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Rwsia, Canada a Japan – yn cyfarfod am ddeuddydd yn nhref anghysbell Deerhurst.
Daw’r cyfarfod ychydig ddyddiau ar ôl i adroddiad y G8 gadarnhau eu bod nhw wedi methu targedau’r cyfarfod yn 2005, sef dyblu faint o gymorth dyngarol sy’n cael ei roi i’r trydydd byd.
Fe fydd yr arweinwyr yn mynd i Toronto dydd Sadwrn er mwyn trafod yr economi gyda grŵp y G20, sy’n cynnwys gwledydd China, India a De Affrica.