Fe fydd angladd milwr o Gymru fu farw yn Afghanistan yn cael ei gynnal yn Sir y Fflintb heddiw.

Fe fuodd yr Is-gorpral Alan Cochran, o Lanelwy, farw ar 4 Mehefin wrth frwydro yn erbyn gwrthryfelwyr y Taliban ger Nahr-e Saraj, Helmand.

Dywedodd mam y bachgen 23 oed, Shirley, ei fod o’n “filwr balch” a “mab gwych”.

Fe fydd y milwr yn cael ei gladdu yn dilyn gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair yn Ysgeifiog am hanner dydd.

Cafodd milwr arall, Corporal Terry Webster, ei ladd yn ystod yr un frwydr.

Dywedodd yr is-gyrnol Andrew Hadfield bod Alan Cochran newydd ennill dyrchafiad a’i fod o’n barod i gymryd cyfrifoldeb dros fywydau’r dynion eraill.

“Roedd Alan yn caru’r fyddin a’i ffrindiau oedd yn y fyddin, ac roedd o bob tro’n edrych ar ôl y lleill ac yn eu helpu nhw i roi eu gorau,” meddai.

“Roedd ei ffrindiau yn dweud fod ganddo galon o aur, a’i fod o’n hollol anhunanol.”