Mae Prif Weithredwr y Scarlets Paul Sergeant yn gadael y rhanbarth wedi llai ‘na blwyddyn wrth y llyw.

Fe fydd cyn rheolwr Stadiwm y Mileniwm yn cymryd swydd gyda busnes yn y Deyrnas Unedig, ond mae manylion y swydd yn gyfrinachol ar hyn o bryd.

Ymunodd Sergeant gyda’r Scarlets ym mis Awst 2009 wedi cyfnod fel Rheolwr Stadiwm Suncorp yn Brisbane a chyfnodau cynt gyda Stadiwm y Mileniwm a Wembley.

Wedi cyrraedd cerrig milltir pwysig

“Cytunwyd o’r cychwyn cyntaf mai am gyfnod penodol o amser yn unig y byddwn i yma gyda’r Scarlets,” meddai Paul Sargeant.

“Rwyf wedi mwynhau fy swydd fel Prif Weithredwr ac rwyf o’r farn ein bod wedi cyrraedd cerrig milltir pwysig dros y tymor diwethaf.

“Mae yna bethau allweddol sydd yn rhaid i mi eu gwneud yn fy ngyrfa o hyd ac mae’r rhanbarth wedi bod yn hapus i fy nghefnogi gyda’r penderfyniad yma ers i mi ymuno a’r rhanbarth.”

Dylanwad mawr

Dywedodd Cadeirydd y Scarlets, Huw Evans bod Paul Sargeant wedi cael dylanwad mawr ar ddyfodol busnes y clwb dros y tymor diwethaf.

“Galwyd ar ei arbenigedd ef pan oedd angen ef fwyaf; i osod systemau ac i gynorthwyo gyda rhedeg Parc y Scarlets ar ddiwrnodau gêm a diwrnodau heb gêm,” meddai Huw Evans.

“Mae ei gyfraniad wedi bod yn allweddol yn ein cartref newydd ac rydym yn ddiolchgar iddo am yr egni a’r ymrwymiad mae e wedi ei ddangos dros y flwyddyn ddiwethaf.”