Mae cwmni First Great Western wedi canslo tua 40 o deithiau trên yng Nghymru er mwyn darparu gwasanaethau ychwanegol ar gyfer Gŵyl Glastonbury.
“Fe fydd y penderfyniad hwn yn rhoi pwysau ar wasanaethau ar draws Cymru ac mae’n hollol annerbyniol,” meddai Gweinidog Trafnidiaeth yr Wrthblaid, Jenny Randerson, AC.
Dywed y cwmni fod y newidiadau wedi eu cyhoeddi ymhell o flaen llaw a thrwy nifer o sianeli.
“Roedd rhaid gwneud hyn i helpu ymdopi â’r lefel uchel o alw gyda phobl yn teithio i Ŵyl Glastonbury,” meddai llefarydd ar ran First Great Western.
“Bydd trên arall o fewn 30 munud i’r rhan fwyaf o wasanaethau sydd wedi’u canslo ac rydym yn cynghori pobl i edrych ar amseroedd y trenau cyn iddynt deithio.”
LLUN: First Great Western – Flikr – JZjr