Mae Llywodraeth Prydain wedi cael eu cyhuddo o fynd ati i wneud i bobol “weithio nes iddyn nhw gwympo” ar ôl cyhoeddi cynlluniau i gyflymu’r broses o newid yr oed ymddeol.
Y tebygrwydd yw y bydd yr oedran pryd mae dynion yn derbyn pensiwn y wladwriaeth yn cael ei godi o 65 i 66 yn 2016 – roedd y Llywodraeth Lafur flaenorol yn mynd i wneud y newid ddegawd yn ddiweddarach.
Mae’n debyg hefyd y bydd Llywodraeth clymblaid y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn awgrymu ymestyn hyn i 70 a throsodd hyd yn oed, yn ystod y degawdau sydd i ddilyn.
Ond er bod croeso i fwriad arall a gyhoeddwyd, o gael gwared â’r drefn lle mae cwmnïoedd yn gallu cael gwared â gweithwyr sy’n 65, mae’r newidiadau wedi cael eu beirniadu.
Y tlotaf, honnir, a phobol sydd wedi gweithio yn y diwydiannau trwm sydd yn mynd i ddioddef.
Disgwyliad oes is
“Mae gorfodi rhywun sydd wedi gwneud oes o lafur ar safleoedd adeiladu, ffermydd neu mewn ffatrïoedd i weithio nes eu bod yn 66 yn hollol annerbyniol,” meddai Paul Kenny o undeb y GMB.
Mae Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr hefyd wedi dweud fod y newid yn ymosodiad ar aelodau tlotaf cymdeithas.
Dywedodd yr ysgrifennydd cyffredinol, Dot Gibson, fod yna “ddim amheuaeth taw’r mwyaf o arian sydd gan rhywun, yr hiraf maen nhw’n byw.”
“Felly mae cynyddu’r oedran ymddeol yn ymosodiad uniongyrchol ar y rhai tlotaf yn ein cymdeithas.
“Dyw’r polisi yma ddim ynglŷn â chreu dewis, mae’n ymwneud â thorri costau a gwneud i’r tlotaf dalu’r pris uchaf.”
‘Nawr yw’r amser’
Ond mae’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, wedi dweud mai nawr yw’r amser i ddiwygio system bensiynau hen ffasiwn.
Dywedodd wrth bapur newydd y Telegraph fod angen i bobol weithio’n hirach os yw gwledydd Prydain yn mynd i gael system sefydlog a chynaliadwy.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wrth y BBC fod y syniad o gynyddu’r oed ymddeol i 66 wedi cael ei dderbyn, a bod yn “rhaid cymryd y cam” rywbryd.