Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod pedwar o filwyr Prydeinig wedi cael eu lladd mewn damwain ffordd yn Afghanistan neithiwr.
Cafodd y milwyr eu lladd ger tref Gereshk yn nhalaith Helmand, wrth ymateb i ddigwyddiad.
Roedd eu cerbyd wedi rholio oddi ar y ffordd ac wedi glanio o dan ddŵr – dyw hi ddim yn ymddangos bod y ddamwain wedi digwydd yn sgil gwrthdaro.
Mae 307 o filwyr Prydeinig wedi marw yn Afghanistan bellach ers 2001.
Cafodd 18 ohonynt eu lladd yn ystod mis Mehefin – naw yn ystod y saith diwrnod diwethaf. Roedd milwr o’r Rhyl, yr Is-gorporal Michael Taylor, yn un ohonyn nhw.
LLUN: Gwifren PA