Ymhlith gwesteion Gŵyl Arall – penwythnos o gerdd, llên a ffilm yn nhref Caernarfon eleni – fydd un o smyglwyr cyffuriau enwocaf y byd – Howard Marks a’r actor enwog Rhys Ifans.
Fe fydd y ddau yn trafod y ffilm newydd ar fywyd Marks, Mr. Nice. Rhys Ifans sy’n actio rhan Howard Marks.
“Fe fydd Howard Marks yn siarad am amrywiaeth o bethe’. Mae e’n gymeriad difyr,” meddai Eirian James, Palas Print, Caernarfon, un o’r trefnwyr.
Bydd dros 30 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal dros y penwythnos sy’n dechrau rhwng 23 a 25 Gorffennaf.
Ymhlith yr enwau mawr eraill fydd yn cyfrannu at ŵyl eleni fydd Gillian Clarke a Carol Ann Duffy.
Y Digwyddiadau
Ar y nos Wener, fe fydd trefnwyr yr ŵyl yn atgyfodi noson adloniant a llen Pedwar a Chwech. Ymhlith cyfranwyr y noson fydd Tudur Owen, Dewi Prysor, Meic Povey, Cate Le Bon a Gwion Hallam.
Ar y dydd Sadwrn bydd sesiynau celf a llên, ffilmiau a cherddoriaeth yn cael eu cynnal gyda rhagor o arlwy amrywiol ar y Sul.
Fe fydd yr ŵyl yn defnyddio amrywiaeth o leoliadau o amgylch tref Caernarfon gan gynnwys y neuadd y farchnad yng nghanol y dref ble bydd bar a chadeiriau yn ogystal â’r Con Clyb.
“Rydan ni i gyd yn byw ac yn gweithio yma yng Nghaernarfon,” meddai Eirian James cyn mynd ati i ddweud eu bod yn “defnyddio gofodau sy’n bodoli’n barod yn y dref, mewn ffordd wahanol ar gyfer yr ŵyl.”
Eleni, mae’r trefnwyr yn gobeithio ‘ymestyn cynulleidfa’r ŵyl’.
“Llynedd, yn sicr, pobl leol oedd trwch y gynulleidfa,” meddai Eirian James.
“Ond efallai y bydd Howard Marks yn apelio i gynulleidfa tu hwnt i’r lleol.”