Miriam James sy’n adrodd hanes lansiad Hunangofiant Eirwyn James yn neuadd gymunedol Maenclochog …
Neithiwr, ar y trydydd ar hugain o Fehefin, casglodd torf o bobl yr ardal i lenwi neuadd gymunedol Maenclochog ar gyfer achlysur arbennig iawn, sef lansiad llyfr Hunangofiant Eirwyn George. Roedd y neuadd dan ei sang yn awchu i glywed yr hanes am lyfr Eirwyn George – un o sêr ffurfafen Maenclochog a’r ardal. Â’r tywydd braf yn treiddio drwy’r neuadd, cafwyd noson fendigedig wrth i dalentau’r fro hudo’r gynulleidfa.
Cafwyd ychydig o hanes bywyd y Prifardd Eirwyn George gan Hefin Wyn a adlewyrchai mai dyn ei fro ydoedd. Yn awdur toreithiog, ef yw un o’r rhai o Sir Benfro sydd wedi cyhoeddi mwyaf o lyfrau yn y Gymraeg. Â’r cyflwyniad difyr yn cynnwys ambell stori ddigri am Eirwyn, roedd cymuned glòs Maenclochog wrth ei bodd.
Dywedodd Lefi Griffith, o Wasg y Lolfa mai braint ac anrhydedd oedd cael cyhoeddi’r gyfrol. Bu Eirwyn yn sôn am ei blentyndod, gan ddifyrru’r gynulleidfa gyda’i jôcs a’i storïau.
Cafwyd dau ddarlleniad o’r gyfrol, gyda’r iaith gartrefol, twymgalon yn nodedig o ddyn ei fro. Dywedodd Alun Jones fel y mae Eirwyn yn siarad o’r galon yn y llyfr, heb unrhyw rodres, a sut y mae’n berchen ar ddawn dweud, mewn rhyddiaith a barddoniaeth.
Cafwyd toriad a bu pawb yn cymdeithasu dros ddished a bara brith a pice ar y mân. Beth gewch chi well!
Cafwyd mwy o storïau difyr yn yr ail hanner, a llonyddwyd y dorf gan naws arbennig darlleniad o benillion coffa gan Eirwyn i’w gyfaill – Dil Hafod Ddu. Yna, cafwyd deuawd hudolus gan leisiau peraidd Ffion a Sara, yn canu detholiad o benillion telyn a greodd Eirwyn i Faenclochog er mwyn dathlu’r mileniwm, ar dôn gan Marilyn Lewis.
Darllenwyd dwy bennod o’r gyfrol – un yn ymwneud a’i gyfnod yn ysgol Arberth a’r llall yn sôn am ei hoffter o focsio! Tipyn o amrywiaeth! Bu’r Parchedig Huw George wedyn yn canu cân a gyfansoddodd tad Eirwyn –‘ Ffair Maenclochog’ gan adlewyrchu tafodiaith y sir.
Ysgrifennu’n syml a diddorol, heb fwriad i athronyddu oedd nod Eirwyn George. Yn wir, roedd wedi mwynhau ysgrifennu’r hunangofiant, a chael ail-fyw’r holl brofiadau wrth eu nodi ar bapur.
Dyma oedd noson â naws gartrefol, llawn diddanwch a mwynhad, yn gyfle gwych i werthfawrogi perlau’r ardal. Diweddwyd y noson wrth i’r neuadd orlawn ymuno i ganu’r anthem.