Mae cynllun i godi 355 o dai ar safle Parc y Strade, hen safle’r Scarlets yn Llanelli, wedi cael sêl bendith Cyngor Sir Gâr.

Yn ôl llefarydd ar ran y Cyngor Sir, “er bod dipyn o wrthwynebiad i’r peth” fe gafodd y cynlluniau i adeiladu’r 355 o dai ar y safle eu pasio heddiw gan y Pwyllgor Cynllunio.

Y cam nesaf

Y cam nesaf yw i’r cais fynd ger bron Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac yna Llywodraeth y Cynulliad. Doedd y Cynulliad ddim yn hapus gyda’r cynllun blaenorol gan ddweud fod problemau gyda charthffosiaeth ac ansawdd dwr yn yr ardal.

Mae rhai pobl leol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau gan ddadlau y byddai adeiladu tai yn creu llifogydd ac yn cynyddu traffig. Ond mae swyddogion cynllunio ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn hapus gyda’r cais.