Fe fydd uwch benaethiaid Network Rail yn cael bonws o fwy na £2 filiwn er gwaetha’r galw ar i’r Llywodraeth atal bonysau o’r fath.
Fe fydd Prif Weithredwr Network Rail (NR) Iain Coucher yn cael bonws blynyddol ar gyfer 2009/10 o fwy na £348,000, yn ogystal â £293,000 o gynllun rheoli tair blynedd.
Mae bonysau blynyddol cyfarwyddwyr NR yn cynnwys symiau chwe ffigwr hefyd gyda chyfanswm o dros £2.25 miliwn yn cael ei dalu.
Mis diwethaf, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Philip Hammond alw ar benaethiaid NR i fod yn ymwybodol bod penaethiaid y cwmni “eisoes yn cael eu gwobrwyo yn hael o ran cyflogau blynyddol.”
Llai na’r llynedd
Ond dywed NR fod bonysau cyfarwyddwyr ar gyfer 2009/10 wedi cael eu torri 20%.
Fe ddywedodd NR hefyd y byddai cyflogau cyfarwyddwyr yn cael ei rhewi a chynllun bonysau’r flwyddyn nesaf yn cael ei atal tra bod pwyllgor y cwmni – sy’n penderfynu ar daliadau bonws yn edrych ar gynllun i’r dyfodol.
LLUN: Network Rail