Mae’r beiciwr o Gymru, Geraint Thomas wedi cael ei gynnwys yn Team Sky ar gyfer cystadleuaeth Tour de France sy’n cychwyn yn Rotterdam fis nesaf.

Mae Thomas yn rhan o garfan naw dyn sy’n cynnwys y Prydeinwyr Steve Cummings a Bradley Wiggins, a orffennodd yn bedwerydd yn 2009 ac sydd hefyd yn arweinydd y tîm.
Y beicwyr eraill yn y garfan yw: Edvald Boasson Hagen, Juan Antonio Flecha, Michael Barry, Serge Pauwels, Simon Gerrans a Thomas Lofkvist.

Geraint Thomas oedd y beiciwr ieuengaf i gystadlu yn y Tour de France yn 2007 gyda Team Barloworld yn ogystal â’r Cymro cyntaf ers Colin Lewis yn 1967 i gymryd rhan yn y ras.

Ddim wedi cystadlu yn 2008

Ni gystadlodd Geraint Thomas yn y ras yn 2008 ar ôl cystadlu yn ras Giro d’Italia yng nghynt yn y flwyddyn cyn ennill medal aur gyda Phrydain yng Ngemau Olympaidd Beijing yn yr haf o’r un flwyddyn.

Mae pennaeth Team Sky, Dave Brailsford yn credu bod yna ddigon o amrywiaeth ymysg y garfan wrth i’r tîm paratoi i gystadlu am y tro cyntaf.

“Mae gennyn ni gymysgedd dda o feicwyr gyda phrofiad o gystadlu yn ogystal â thalent ifanc a fydd yn helpu ni berfformio a datblygu talent,” meddai Dave Brailsford.

“Mae’n hyfryd bod gennym ni dri beiciwr o Brydain yn y garfan, ac maen nhw’n haeddu eu lle.”

Llun o Geraint Thomas gan Adam Brookes.