Mae cyn faswr Cymru, Neil Jenkins wedi rhoi hwb i Dan Biggar wrth iddo baratoi i berfformio ar un o lwyfannau anoddaf y byd rygbi pan fydd yn wynebu Seland Newydd dydd Sadwrn.
Mae maswr y Gweilch wedi cael ei ddewis yn lle Stephen Jones i wynebu’r Crysau Duon yn yr ail brawf yn Hamilton.
Dom ond dwywaith o’r blaen y cafodd ddechrau gêm i Gymru ac fe allai wynebu Dan Carter, os fydd maswr Seland Newydd yn ffit.
Ond mae Neil Jenkins wedi dweud ei fod yn ffyddiog y bydd Biggar yn perfformio’n dda ar y lefel yma.
“Does dim angen unrhyw eiriau o gyngor oddi wrtha i – mae’n ddyn ifanc hyderus,” meddai Jenkins.
“Rwy’n ei adnabod ers ei fod yn 14 oed ac mae’n chwaraewr gwych.”