Bydd y gêm hiraf mewn hanes tenis yn ail gychwyn yn Wimbledon prynhawn yma ar ôl i’r gêm gael ei oedi wrth iddi dywyllu neithiwr.
Ar ôl dau ddiwrnod ar Gwrt 18 Wimbledon bu rhaid i’r chwarae stopio ar ôl i’r ddau chwaraewr, Nicolas Mahut o Ffrainc a John Isner o’r Unol Daleithiau fethu â chytuno i barhau gyda’r chwarae.
Mae Mahut ac Isner wedi ennill dwy set yr un ac maen nhw wedi ennill 59 gêm yr un yn y bumed set.
Cyn gadael y cwrt neithiwr fe ddywedodd John Isner ei od yn awyddus i weld ystadegau’r gêm, gan ychwanegu: “Ni fydd rhywbeth fel hyn byth yn digwydd eto.”
Bydd y gêm yn ail gychwyn dim cyn 3.30pm heddiw ar Gwrt 18.