Bydd y Comisiwn Etholiadol heddiw yn derbyn drafft o’r cwestiwn sydd dan sylw ar gyfer refferendwm dros ddatganoli grymoedd deddfu llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’r drafft hefyd yn cynnwys eglurhad o sefyllfa grymoedd Llywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd, a dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru y bydd y Comisiwn yn cymryd 10 wythnos i’w adolygu.
Dywedodd hefyd ei bod hi a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a’r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones, yn “bras gytuno” â’r geiriad.
Cafodd y drafft ei ‘sgrifennu gan banel o swyddogion o Lywodraeth Cymru, Swyddfa Cymru, Comisiwn y Cynulliad, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a Swyddfa’r Cabinet.
Geiriad y drafft:
‘Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol (y Cynulliad) y pwerau i ddeddfu ar gyfer Cymru ar rai pynciau mewn meysydd sydd wedi’u datganoli. Mae’r meysydd sydd wedi’u datganoli yn cynnwys iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, llywodraeth leol a’r amgylchedd. Caiff y Cynulliad ennill mwy o bwerau i ddeddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli trwy gael cytundeb gan Senedd y Deyrnas Unedig, a hynny fesul pwnc.
Os bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio ‘Ydw’ yn y refferendwm hwn, bydd y Cynulliad yn ennill pwerau i ddeddfu ar bob pwnc yn y meysydd sydd wedi’u datganoli. Os bydd y rhan fwyaf yn pleidleisio ‘Nac Ydw’, bydd y trefniadau presennol – sef trosglwyddo’r hawl i ddeddfu bob yn damaid, gyda chytundeb Senedd y Deyrnas Unedig bob tro – yn parhau.
Ydych chi’n cytuno y dylai’r Cynulliad gael pwerau yn awr i ddeddfu ar yr holl bynciau yn y meysydd sydd wedi’u datganoli heb fod angen cytundeb Senedd y Deyrnas Unedig yn gyntaf?’
-Ydw, rydw i’n cytuno.
-Nac ydw, dydw i ddim yn cytuno.’
‘Bras gytuno’
Mae disgwyl i’r refferendwm ddigwydd fis Mawrth nesaf, tua deufis cyn etholiadau’r Cynulliad.
Roedd rhai yn galw am gael cynnal y bleidlais yn yr hydref, ond mae hyn wedi cael ei wrthod gan Cheryl Gillan, sydd wedi beio’i rhagflaenydd, Peter Hain, am beidio paratoi digon er mwyn galluogi i hynny ddigwydd.