Yn dilyn wythnosau o wrthod gwneud sylw yn y wasg, mae un o gyfarwyddwyr Barcud Derwen wedi siarad gyda Golwg tra ar ei wyliau ar ynys Menorca.
Mae Bryn Roberts wedi datgelu ei fod ef ei hun wedi colli £100,000 yn sgil cwymp y cwmni, ac mae’n ymddiheuro am fethu talu cyflog a threuliau i’r gweithwyr.
Ond mae’n gwrthod trafod pryderon y gweithwyr sy’n ofni bod misoedd o’u cyfraniadau pensiwn ar goll.
Doedd y cwmni ddim wedi pasio’r arian ymlaen i gwmni pensiwn Standard Life.
Dywedodd Bryn Roberts bod rhaid holi’r gweinyddwyr am yr arian pensiwn, ond doedd Grant Thornton ddim am ateb cwestiynau Golwg ar y mater.
Er ei fod yn honni iddo golli bron i £100,000 yn sgil cwymp Barcud Derwen, mae Bryn Roberts yn dweud ei fod “ wedi dewis peidio gwneud cais i’r gweinyddwyr am arian.” Mae bellach yn ddi-waith.
Sut i ddarlledu dros yr haf?
Yn y cyfamser, mae cwmnïau teledu yn trafod sut i ymateb i gwymp y cwmni adnoddau, oedd yn cyflogi 35 yng Nghaernarfon tan yr wythnos ddiwetha’.
Mae cerbyd gwerth £3.7 miliwn Barcud Derwen yn cael ei ystyried yn allweddol i ddyfodol darlledu awyr agored yng Nghymru a thrafodaethau ar y gweill i sicrhau darpariaeth ar gyfer rhai o brif ddigwyddiadau’r haf – Eisteddfod Llangollen, y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Ar ôl i grŵp Barcud Derwen fynd i ddwylo’r gweinyddwyr Grant Thornton, un cwmni – Omni TV yng Nghaerdydd – yw’r unig gwmni sydd heb fynd i’r wal hyd yn hyn.
Mae Golwg yn deall bod rheolwr Omni, Tony Cahalane, yn ceisio parhau â’r gwaith gan ddefnyddio cerbyd darlledu allanol HD neu clirlun a gafodd ei brynu gan gwmni Barcud Derwen.
“Yr ydyn yn dal i aros am benderfyniad ynglŷn â pha ffordd fydd Omni yn mynd,” meddai Sharon Scott, Cyfarwyddwr Adnoddau Omni, ddechrau’r wythnos.
“Fydden ni’n gwybod mwy ymhen ychydig ddyddiau. Mae’n sefyllfa fregus efo gwerthiant y cwmni yn dal i fynd yn ei flaen.”
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 24
(Llun – o wefan y cwmni)