Mae’r saga datganoli grymoedd deddfu dros feysydd tai o San Steffan i Fae Caerdydd yn rhygnu ‘mlaen, wedi i Lywodraeth Prydain osod amodau ar y gorchymyn.
Mae’r Glymblaid yn San Steffan yn mynnu y bydd yn rhaid cael gwared ag elfen yn yr eLCO sy’n ymwneud â gwerthu tai cyngor. Mae Llywodraeth Cymru eisiau’r hawl i allu gohirio neu atal tai cyngor rhag cael eu gwerthu.
Ond cyn i’r broses ddeddfu symud ymlaen, rhaid dileu’r rhan yma meddai San Steffan.
Mae nhw hefyd wedi gofyn am gael sicrwydd ysgrifenedig ynglŷn ag amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer grymoedd sy’n ymwneud â sefydlu safleoedd ar gyfer Teithwyr a’r Sipsiwn.
Chwilio am farn Aelodau’r Cynulliad
Mae Llywodraeth Cymru yn hawlio fod yr amodau yma yn mynd yn groes i adduned cytundeb clymblaid Llywodraeth Prydain i symud y gorchymyn ymlaen.
Yn sgil hyn, mae’r Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio, Jocelyn Davies, wedi gwahodd Aelodau’r Cynulliad i ddweud eu barn am y sefyllfa, cyn y bydd hi’n ymateb yn swyddogol i San Steffan.
Aros am ymateb llywodraeth y Cynulliad
Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud fod eu Cytundeb Clymbleidiol yn dangos ymroddiad clir i symud y gorchymyn ymlaen.
Maen nhw wedi rhoi “modd” i Lywodraeth y Cynulliad symud ymlaen yn “gyflym,” meddai llefarydd o Swyddfa Cymru.
“Rydyn ni’n aros am ymateb swyddogol Llywodraeth y Cynulliad.”
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes beirniadu’r Blaid Geidwadol am geisio rhwystro’r gorchymyn cyn iddyn nhw ddod i rym yn San Steffan.