Fe sgoriodd Matt Prior 117 o rediadau oddi ar 55 pêl i sicrhau buddugoliaeth 53 rhediad i Sussex yn erbyn Morgannwg.
Helpodd batiad Prior ynghyd â 60 gan Chris Nash i Sussex gyrraedd ei sgôr gorau yn y gystadleuaeth, sef 239-5.
Roedd rhaid i Forgannwg sgorio 12 rhediad bob pelawd i gyrraedd targed Sussex, ond roedd bowlio Chris Nash yn rhwystredig i’r Dreigiau.
Dim ond 186- 5 gyrhaeddodd Morgannwg er gwaethaf ymdrechion gan Jamie Dalrymple (46) a Mark Cosgrove (43).
Mae Sussex yn arwain y ffordd ar frig y tabl tra bod Morgannwg wedi disgyn i’r pumed safle yn dilyn colli bedair gwaith ar ôl ei gilydd.
Llun: Bathodyn Morgannwg