Mae achubwyr yn Brasil yn ceisio dod o hyd i 600 o bobl sydd ar goll yn dilyn llifogydd trymion yng ngogledd ddwyrain y wlad.

Mae o leia’ 44 wedi marw a 120,000 yn ddi-gartref ar ôl wythnos o law trwm yn nhaleithiau Alagoas a Pernambuco.

Mae’r glaw wedi gostegu yn Alagoas lle mae achubwyr yn defnyddio peiriannau i symud gweddillion cartrefi ac yn defnyddio cŵn i chwilio am y rhai sy’n dal yn fyw.

Mae 36 centimedr o law wedi disgyn mewn rhai ardaloedd dros y tridiau diwethaf.

Mae dros 40,000 o gartrefi wedi diflannu yn ogystal â phontydd a thraciau trenau gan wneud y gwaith achub yn anodd.

Fe ddywedodd llywodraeth Brasil fod gwerth $56m o gymorth yn cael ei anfon i’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio. Mae llefarwyr ar ran y llywodraeth wedi dweud fod tunnelli o fwyd a meddyginiaeth eisoes wedi cael ei gludo yno.

Llun: Llifogydd yn ninas Barreiros yn nhalaith Pernambuco (PA).