Mae trên oedd yn teithio yng ngogledd ddwyrain Sbaen wedi taro grŵp o bobl oedd yn croesi’r trac gan ladd o leia’ 12 ac anafu 14 arall.
Roedd y bobl ifanc ar eu ffordd i barti ar draeth i ddynodi dechrau’r haf ac newydd ddod oddi ar drên yn Castelldefels ger Barcelona ychydig cyn hanner nos neithiwr.
Yn hytrach na defnyddio’r tanffordd i fynd allan o’r orsaf, fe geisiodd tua 30 ohonynt groesi’r traciau.
Fe gafodd yr ieuenctid eu taro gan drên oedd yn teithio ar gyflymder uchel gan nad oedd yn stopio yn yr orsaf.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran llywodraeth ranbarthol Catalonia, Nacho Solano, bod 12 wedi marw a 14 wedi eu hanafu gyda thri o rhain mewn cyflwr difrifol.
Dyma oedd damwain gwaethaf Sbaen ers 2003 pan gafodd 19 o bobl eu lladd mewn gwrthdrawiad rhwng dwy drên.