Mae hyfforddwr Lloegr, Fabio Capello yn mynnu y gallai Lloegr gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd wrth i’r tîm baratoi i wynebu Slofenia yn Cape Town.

Cyn i’r gystadleuaeth ddechrau, roedd yr Eidalwr wedi dweud bod ei dîm â’r gallu i gyrraedd y rownd derfynol yn Soccer City ar 11 Mehefin.

Ond mae Lloegr wedi cael dechrau siomedig i’r gystadleuaeth gyda dwy gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau ac Algeria.

“Nid wyf yn wallgof. Dywedais mai fy nharged oedd y rownd derfynol oherwydd r’y ni wedi dangos bod gennym ni garfan gref,” meddai Capello.

“Pan fyddwn ni’n curo Slofenia fe fydd rhaid i’r timau eraill ymladd yn ein herbyn.”

Mae Fabio Capello wedi dweud nad oedd wedi ystyried gadael yr amddiffynnwr, John Terry allan o’r tîm ar ôl ei sylwadau dydd Sul.

“Mae John Terry yn un o’r chwaraewyr pwysicaf, ac nid wyf wedi meddwl gadael ef allan o’r tîm,” meddai’r hyfforddwr.

“Mae’n gêm holl bwysig i ni ac mae pawb yn canolbwyntio ar hynny a dim byd arall,” ychwanegodd Capello.

Llun: PA : Fabio Capello.