Mae rheolwr Abertawe, Paulo Sousa, wedi dweud ei fod eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer y tymor newydd, wrth i’r Elyrch ddod yn nes at arwyddo eu chwaraewr cyntaf o’r haf.
“Roedden ni wedi gwneud gwelliant mawr y tymor diwethaf o’i gymharu â’r flwyddyn gynt o ran safle yn y Bencampwriaeth,” meddai Sousa.
“Rwy’n gwybod bod y clwb am barhau i symud ymlaen yn y cyfeiriad cywir. Pan orffennodd y tymor diwethaf, ro’n i wedi aros yn Abertawe i baratoi ar gyfer tymor nesaf.
“Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda’r cadeirydd a David Leadbeater (y prif sgowt newydd).
“R’yn ni wedi siarad am y chwaraewyr yr oedden nhw am eu harwyddo, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw cyn gynted â cheisio eu datblygu nhw i chwarae ein steil o bêl-droed,” ychwanegodd Sousa.
Chwaraewr newydd
Mae disgwyl i Abertawe gyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo chwaraewr canol cae Aldershot, Scott Donnell, yn fuan.
Fe sgoriodd Donnell 14 gôl i’r clwb tymor diwethaf i’w helpu cyrraedd gemau ail gyfle Cynghrair Dau.
Mae cytundeb presennol y chwaraewr gydag Aldershot wedi dod i ben, ond gan ei fod yn 22 oed, fe fydd rhaid i Abertawe dalu iawndal amdano.
Fe ddaw Scott Donnell i Stadiwm Liberty ar argymhelliad David Leadbeater.