Mae gweinidogion y Trysorlys wedi bod yn amddiffyn y Gyllideb ddoe, yn wyneb beirniadaeth gan rai o aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dyna pam y mae prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Democrat Rhyddfrydol Danny Alexander, wedi mynnu bod rhaid codi lefel Treth ar Werth.
Mae rhai o ASau’r blaid wedi bygwth pleidleisio yn erbyn eu Llywodraeth glymblaid eu hunain oherwydd y cynnydd ac mae eraill, gan gynnwys yr arweinydd seneddol Cymreig, Roger Williams, wedi beirniadu’n llym.
Yn ôl Danny Alexander doedd dim dewis ond codi lefel y dreth er mwyn ceisio cael gwared ar ddyledion y Llywodraeth.
‘Argyfwng’
“Mae’n argyfwng a dyna pam fod angen Cyllideb argyfwng,” meddai. “Y peryg mwya’ yw’r dyledion ac os na awn ni i’r afael â’r rheiny fe fydd y wlad ar ei ffordd i’r domen.”
Ar Radio Wales y bore yma, fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, ei bod hithau’n anhapus gyda’r cynnydd mewn Treth ar Werth ond mai’r Llywodraeth Lafur oedd ar fai.
Mae’r Canghellor, George Osborne, hefyd wedi bod yn mynd o stiwdio i stiwdio yn dadlau o blaid y Gyllideb. Mae wedi ailadrodd y mantra ei bod yn “galed ond teg”.
Prif bwyntiau’r Gyllideb fan hyn.
Llun: Danny Alexander (Gwifren PA)