Dyw hi ddim yn amhosib i Stephen Jones fod yn ffit ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Seland Newydd ond fe allai maswr y Gweilch, Dan Biggar, gymryd ei le beth bynnag.
Dyna’r dyfalu sy’n dod o wersyll Cymru cyn y gêm yn Hamilton ac mae yna ddisgwyl hefyd y bydd asgellwr y Dreigiau, Will Harries, yn y pymtheg.
Roedd Jones wedi anafu ei law yn y prawf cyntaf a doedd meddygon ddim yn siŵr a fyddai’n holliach i chwarae yn erbyn y Crysau Duon.
Mae wedi ymarfer ar wahân hyd yn hyn, ond mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi penderfynu peidio ag ychwanegu maswr arall i’r garfan, sy’n awgrymu y gallai Jones gymryd rhan ddydd Sadwrn.
Ond Dan Biggar yw’r ffefryn i wisgo’r crys rhif deg gyda Gatland yn awyddus iddo gael profiad yn erbyn un o dimau gorau’r byd.
Bishop mas
Mae Cymru eisoes heb Andrew Bishop ac mae disgwyl i ganolwr y Scarlets, Jonathan Davies, gymryd ei le.
Mae yna amheuon hefyd am y canolwr, Jamie Roberts, a’r blaenasgellwr, Rob McCusker, a fethodd y sesiwn ymarfer ddoe tra bod y prop John Yapp wedi cael ei anafu wrth ymarfer.
Bydd Warren Gatland yn enwi ei dîm ar gyfer yr ail brawf yfory.
Llun; Dan Biggar