Mae arweinydd lluoedd arfog yr Unol Daleithiau yn Afghanistan wedi cael ei alw i’r Tŷ Gwyn ar ôl beirniadu’r weinyddiaeth yn Washington.
Mae yna adroddiadau bod y Cadfridog Stanley McChrystal yn barod i ymddiswyddo tra bod yr Arlywydd Barack Obama yn ystyried rhoi’r sac iddo.
Mae Barack Obama wedi galw ar Stanley McChrystal i esbonio ei sylwadau mewn erthygl yng nghylchgrawn Rolling Stone- mae’r cadfridog eisoes wedi ymddiheuro.
“Rwy’n awyddus i siarad gydag ef yn uniongyrchol cyn gwneud penderfyniad terfynol,” meddai’r Arlywydd.
Oedi yn ‘boenus’
Doedd y cadfridog ddim wedi beirniadu’r Arlywydd yn uniongyrchol, ond fe ddywedodd bod yr oedi pan oedd Barack Obama yn ystyried anfon mwy o filwyr i Afghanistan neu beidio yn gyfnod “poenus.”
Ond roedd ganddo gyhuddiadau mwy difrifol yn erbyn llysgennad yr Unol Daleithiau yn Afghanistan, Karl Eikenberry.
Fe gyhuddodd y llysgennad o’i fradychu a chodi amheuon am Arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai er mwyn achub ei groen ei hun.
Y cefndir
Fe fyddai’n amser peryglus i newid arweinydd yn Afghanistan gyda chefnogaeth y cyhoedd i’r rhyfel ar drai a’r cyrch milwrol yn ne’r wlad yn mynd yn arafach na’r disgwyl.
Mae milwyr yr Unol Daleithiau yn nhalaith Helmand yn ymladd bob dydd gyda’r Taliban, fisoedd ar ôl dechrau ymgyrch i gael gwared ar y gwrthryfelwyr o’r ardal.
Llun: Stanley McChrystal dan bwysau