System iechyd y Deyrnas Unedig yw’r fwya’ effeithlon ymhlith rhai o wledydd mawr y Gorllewin, yn ôl astudiaeth newydd.
Hi hefyd yw’r ail orau’n gyffredinol, meddai’r corff Americanaidd, Cronfa’r Gymanwlad. Roedd yn ail i’r Iseldiroedd ond yn well na’r pum gwlad arall yn yr arolwg – Awstralia, yr Awstria, yr Almaen, Seland Newydd, Canada a’r Unol Daleithiau.
Y gwasanaeth iechyd yn yr Unol Daleithiau oedd y gwaetha’ a’r druta’ yn ôl yr adroddiad – mae’n costio £4,926 y pen o’i gymharu â £2,021 y pen yn y Deyrnas Unedig.
Roedd yr astudiaeth wedi ystyried profiad 27,000 o gleifion yn y saith gwlad tros gyfnod o dair blynedd.
Roedd y system iechyd yng ngwledydd Prydain hefyd yn sgorio’n dda o ran gofal a gallu cael gafael ar ofal ond yn ail o’r gwaelod am “fywydau hir, iach a chynhyrchiol”.