Mae un o undebau’r ffermwyr wedi condemnio bwriad Llywodraeth y Cynulliad i gael cofrestr gyhoeddus o bwy sy’n tyfu cnydau GM.
Fe allai hynny arwain at “fygythiadau a chodi ofn”, meddai NFU Cymru, sy’n rhybuddio y bydd ffermwyr Cymru’n colli cyfle i gystadlu’n gyfartal yn erbyn ffermwyr eraill yn Ewrop.
Ddoe fe gyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig ei bod am geisio cael cyfraith newydd i sefydlu cofrestr.
Cyfyngiadau caeth
Yn ôl Elin Jones, fe fyddai Cymru’n cael y rheolau “mwyaf caeth posib” i gyfyngu ar dyfu cnydau GM – rhai sy’n cynnwys genynnau sydd wedi eu haddasu’n wyddonol.
“Dw i wedi ymrwymo i gadw hawl defnyddwyr i ddewis bwyd heb GM a gallu ffermwyr yng Nghymru i dyfu cnydau organig a chonfensiynol heb eu llygru gan GM,” meddai.
Fe fyddai unrhyw ddeddfau a rheolau newydd yn eu lle cyn i unrhyw gnydau GM gael trwydded i’w tyfu yng ngwledydd Prydain, meddai.
Gwaharddiad ‘drws cefn’
Ond, yn ôl Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Stephen James, roedd y Llywodraeth yn ceisio cael gwaharddiad “drws cefn” ar gnydau o’r fath.
“R’yn ni’n pryderu y byddai cofrestr yn cael ei chamddefnyddio gan bobol sy’n gwrthwynebu cnydau GM,” meddai.
“Mae lle i gnydau organig, confensiynol GM fyw ochr yn ochr yng Nghymru.”
Y cefndir
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn poeni y bydd cnydau GM yn heintio cnydau traddodiadol ac fe fu gweithredu uniongyrchol yn erbyn arbrofion yn y gorffennol.
Llun: Elin Jones – eisiau rheolau caeth