Fe fydd Cabinet Llywodraeth Cymru’n cynnal cyfarfod brys y bore yma i drafod y Gyllideb yn San Steffan.
Y disgwyl yw y gallai olygu toriadau o tua £500 miliwn y flwyddyn nesa’ ac mae’r Llywodraeth yng Nghymru eisoes wedi condemnio’r mesurau.
Roedd yn Gyllideb arbennig o ddrwg i Gymru, medden nhw mewn datganiad, gan ddweud y byddai’n taro’r “tlawd a’r mwya’ bregus” yn galetach na neb.
‘Siomedig’
Roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn siomedig nad oedd dim i sicrhau gwell band llydan a gwell rheilffyrdd yng Nghymru tra bod y Canghellor wedi gwrthod â chydnabod honiadau bod Cymru’n cael £300 miliwn y flwyddyn yn rhy ychydig gan y Trysorlys.
Fe fydd rhaid i’r Llywodraeth yng Nghaerdydd benderfynu a ydyn nhw am weithredu ar unwaith i dorri £160 miliwn ar wario eleni neu a fyddan nhw’n ychwanegu hynny at doriadau’r flwyddyn nesa’.
Yn wahanol i’r Llywodraeth yn San Steffan, fydd yr un adran yn cael ei gwarchod yn llwyr – yn Lloegr, fydd yna ddim torri ar gyllideb yr Adran Iechyd.
Croeso i rai mesurau
Roedd yna groeso yn y Bae i rai o’r mesurau i helpu busnesau – er enghraifft i beidio â chodi Yswiriant Cenedlaethol ar rai swyddi mewn cwmnïau newydd.
Yn ôl y Ceidwadwyr, fe fydd tua 1 miliwn o bobol yng Nghymru hefyd yn elwa o godi’r trothwy talu treth incwm.
Y disgwyl oedd y byddai cyfarfod y Cabinet yng Nghaerdydd yn dechrau am 8.30 y bore yma.