Mae nifer y cwynion yn erbyn cynghorwyr Cymru wedi codi’n sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ – bron chwarter yn fwy.

Ac, yn ôl Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, mae nifer y cwynion sydd wedi arwain at weithredu yn erbyn cynghorwyr hefyd wedi codi.

“Mae hyn yn fater o bryder mewn blwyddyn pan oedd hyder y bobol mewn cynrychiolwyr etholedig yn thema gyson,” meddai’r Ombwdsmon, Peter Tyndall.

Roedd yna gynnydd hefyd mewn cwynion ym maes iechyd – 5% yn uwch – a llawer o’r rheiny, meddai, yn ymwneud â diffyg cyfathrebu.

Manylion yr adroddiad

Dyma rai o fanylion y cwynion yn erbyn cynghorwyr

• Yn 2009-10, roedd yna 303 o gwynion yn erbyn cynghorwyr o’i gymharu â 231 y flwyddyn gynt.

• Mewn 58 o achosion, roedd yna ymchwiliad llawn, mwy na dwbl y nifer yn 2008-09.

• Fe gafodd 26 eu cyfeirio at bwyllgorau safonau neu bwyllgorau dyfarnu – dim ond 8 oedd yna’r flwyddyn gynt.

Tegwch a pharch oedd prif achos y cwynion, gyda methiant i ddatgelu diddordeb yn ail.

“Mae hyn yn rhannol yn adlewyrchu’r ffaith fod nifer uwch o achosion lle mae safon yr ymddygiad, gwaetha’r modd, yn is na’r disgwyl,” meddai Peter Tyndall.

Erbyn hyn, mae Côd Ymddygiad newydd wedi ei greu ar gyfer cynghorwyr.

Llun: O ddalen flaen gwefan yr Ombwdsmon