Mae’r Ariannin, De Korea, Uruguay a Mecsico drwodd i 16 olaf Cwpan y Byd ar ôl y diwrnod olaf yng ngrwpiau A a B.
Stori fawr y diwrnod oedd bod Ffrainc wedi colli yn erbyn 2 – 1 yn erbyn De Affrica yn grŵp A a bod y ddau dîm bellach allan o’r gystadleuaeth.
De Affrica yw gwlad gartref gyntaf y gystadleuaeth i fethu a chyrraedd rownd yr 16 olaf, a hynny oherwydd bod Mecsico un gôl ar y blaen iddyn nhw yn nhabl y grŵp.
Chwaraeodd Ffrainc yn drychinebus o wael ac un fuan ar ôl gol cyntaf De Affrica drwy beniad Bongani Khumalo fe gafodd Yoan Gourcrauff ei anfon o’r cae am ddal MacBeth Sibaya yn yr awyr.
Fe allai Mecsico ac Uruguay fod wedi mynd drwodd pe baen nhw wedi cael gem gyfartal ond enillodd Uruguay 1 – 0 drwy gol Luis Suarez toc cyn hanner amser a nhw sy’n graddio ar dop y grŵp.
Yn grŵp B maeddodd yr Ariannin Gwlad Groeg 2 – 0 a gorffennodd gem Nigeria a De Korea yn gyfartal 2 – 2 yn Durban.
Fe gymerodd hi amser hir i’r Ariannin sgorio yn erbyn Gwlad Groeg, ac fe chwaraeodd y Groegwyr yn amddiffynnol iawn drwy gydol y gêm.
Doedden nhw ddim yn dactegau clyfar iawn ac roedd canlyniad De Korea a Nigeria yn golygu y bydden nhw wedi colli eu lle yn y rownd nesaf hyd yn oed pe bai’r sgôr yn gyfartal.
Ond yn yr ail hanner sgoriodd Martin Demichelis a Martin Palermo er mwyn sicrhau bod yr Ariannin wedi ennill bob gem yn y grŵp hyd yma.
Roedd rhaid i Dde Korea frwydro am gêm gyfartal yn eu gem nhwythau wrth i Nigeria fynd ar y blaen yn gynnar drwy Kalu Uche.
Ond tarodd Lee Jung-Soo yn ôl ugain munud yn ddiweddarach, ac yn yr ail hanner fe aeth De Korea ar y blaen gyda gôl gan Park Chu-Young.
Sgoriodd Ayegbeni Yakubu gic gosb ar ôl i Kim Nam-Il faglu Obasi Ogbuke ugain munud cyn y diwedd er mwyn gorffen y gêm yn gyfartal.