Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymosod ar Gyllideb ‘cas’ Llywodraeth San Steffan, gan ddweud y bydd o’n gwneud niwed mawr i Gymru ac i’r bobol dlotaf yn y wlad.
Mewn datganiad dywedodd y llywodraeth y bydd torri gormod yn rhy gyflym yn siŵr o roi Cymru yn ôl mewn dirwasgiad.
Ond croesawodd Llywodraeth y Cynulliad doriadau treth i fusnesau i helpu i greu swyddi y tu allan i Lundain a de ddwyrain Lloegr.
Fe allai 27,000 o fusnesau newydd yng Nghymru elwa ar gynllun tair blynedd fydd yn caniatáu iddynt osgoi gorfod talu hyd at £5,000 mewn taliadau Yswiriant Gwladol ar eu deg gweithiwr cyntaf.
“Ond eisoes mae’n glir – yn groes i rethreg Llywodraeth San Steffan – mai dyma gyllideb fydd yn taro’r gwannaf a’r mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac yn peryglu’r adferiad economaidd yn sylweddol,” meddai Llywodraeth y Cynulliad.
“Croesewir yr awgrym am ostyngiad trethi i fusnesau i helpu creu swyddi y tu allan i Lundain a’r De-ddwyrain, a hefyd y penderfyniad i beidio â thorri ymhellach ar gyllidebau cyfalaf y tu draw i gynlluniau’r Llywodraeth flaenorol, a’r rheiny eisoes yn llym. Mae parhad buddsoddi cyfalaf yn allwedd i gefnogi’r adferiad a thrawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.
“Ni cheir cynllunio gwario manwl i’r Deyrnas Gyfun ar gyfer y cyfnod ar ôl 2010-11 yn y Gyllideb. Felly nid yw’n bosibl darogan yn union beth fydd ein setliad yn y dyfodol. Ond mae’r Gyllideb yma – gyda’i chyfuniad digyffelyb o godiadau trethi a thoriadau mewn budd-daliadau a gwariant cyhoeddus – yn newydd drwg i’r rhan fwyaf o bobl ar draws gwledydd Prydain ac yn arbennig o ddrwg i bobl yng Nghymru.
“Ein barn ni – sydd yr un â barn llawer o economegwyr ac arweinwyr busnes – yw y gallai torri ar wariant yn rhy fuan ac yn rhy sylweddol niweidio’r economi yn ogystal â’r gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen lleihau’r ddyled a bydd Cymru’n chwarae’i rhan.
“Yn wir, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi arwain y ffordd o fewn y DG gan gychwyn cynllunio dros flwyddyn yn ôl ar gyfer yr adeg heriol yma. Ond fe ddylid lleihau’r ddyled ar raddfa nad yw’n bygwth yr adferiad economaidd na pheri niwed anferth i’r gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae’r toriadau a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth San Steffan yn mentro peryglon mawr gyda’r adferiad eiddil a welwyd.
“Rydyn ni’n pryderu nad yw Llywodraeth San Steffan wedi dangos sut y bydd yn annog twf i helpu mynd i’r afael â’r ddyled a mynd â ni allan o’r dirwasgiad. Mae angen mabwysiadu ymagwedd fwy hirdymor yng Nghymru sy’n cyfyngu ar yr effaith ar swyddi a gwasanaethau, a rhoi sefydlogrwydd a gwydnwch ar gyfer y dyfodol – ni fydd sector cyhoeddus llai’n gwarantu sector preifat mwy.
“Rydyn ni’n siomedig nad yw’r Gyllideb yn cydnabod bod diffyg yn yr arian a ddaw i Gymru o £300m y flwyddyn.
“Rhaid i Lywodraeth San Steffan weithredu’n awr i gyflwyno casgliadau’r Comisiwn Holtham annibynnol a sicrhau llawr gwaelod cyn yr Adolygiad Gwariant er mwyn mynd i’r afael â thanwario’n ddiymdroi.
“Dylasai’r Gyllideb hon amddiffyn pobl syn agored i niwed ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i wneud popeth y gallai er mwyn parhau i fuddsoddi i warchod swyddi a gwasanaethau yng Nghymru.”
Ymateb y Ceidwadwr a’r Dems Rhydd
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan bod y gyllideb yn gynllun pum mlynedd i ailadeiladu economi Prydain.
“Mae’n Gyllideb anochel yma yn llym ond yn deg, ac wedi ei seilio ar egwyddorion cyfrifoldeb, rhyddid a thegwch,” meddai.
“Fe fydd o’n helpu i’n gwlad ni dalu dyledion gorwario yn y gorffennol, wrth adfer ffydd yn yr economi a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus i Gymru a gweddill Prydain.
“Fe fydd y cyfoeth yn cael ei rannu’n fwy teg ar draws y wlad, yn wahanol i’r degawd diwethaf pan oedd rhai rhanbarthau’n gwneud yn well na’i gilydd.
“Fe fydd y mesurau a gyhoeddwyd heddiw o fudd i filoedd o fusnesau ar draws Cymru.”
Ymateb Llafur a Phlaid Cymru
Dywedodd ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Peter Hain, mai “sgandal y Gyllideb yma ydi mai’r bobol fwyaf tlawd fydd yn cael eu taro caletaf. Bydd cynyddu TAW i 20% yn taro pawb, yn enwedig pensiynwyr a phobol sy’n byw mewn tlodi.”
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd, y byddai’r Gyllideb yn peryglu 60,000 o swyddi.
“Er eu bod nhw’n dweud bod pawb yn mynd i gael ei daro’r un fath, mae’r fwyell yn amlwg dros bennau’r tlawd, ac mae’r cyfoethog yn parhau fel oedden nhw,” meddai.