Mae AS Brycheiniog a Maesyfed wedi beirniadu’r Gyllideb gan ddweud na ddylai’r Canghellor George Osborne fod wedi cynyddu TAW.
Cyhoeddodd George Osborne y byddai TAW yn cynyddu o 17.5% i 20% ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Dywedodd yr AS Roger Williams o’r Democratiaid Ryddfrydol, sydd mewn clymblaid gyda’r Ceidwadwyr yn San Steffan, mai’r tlawd fydd yn dioddef o ganlyniad i hynny.
“Mae nhw wedi cyhoeddi cynnydd mewn TAW ac fe fydd hynny yn effeithio ar bobol ar incwm isel,” meddai wrth Golwg 360. “Does dim pwynt cuddio hynny.”
“Roedd llawer wedi gobeithio y gallai’r Llywodraeth ddelio â’r diffygion ariannol heb unrhyw gynnydd mewn Treth ar Werth.”
Pwyntiau positif hefyd
Ond, er ei fod yn dweud ei fod yn “difaru” bod rhai codi Treth ar Werth, pwysleisiodd fod yna “bwyntiau positif” yn y Gyllideb hefyd fyddai’n “helpu’r bobl dlotaf mewn cymdeithas”.
“Fydd yna ddim TAW o hyd ar fwyd a dillad plant,” meddai. “Ac rydym ni wedi dechrau trethu mwy ar bobol sydd ar incwm uwch.
“Y peth gwaethaf a allai fod wedi digwydd oedd penderfynu peidio lleihau’r diffyg ariannol.
“Byddai hynny wedi golygu bod y ddyled genedlaethol yn cynyddu gan adael hyd yn oed llai o arian i wasanaethau cyhoeddus – ond dyw hynny heb ddigwydd.”
Dywedodd y Canghellor heddiw y byddai’r Gyllideb yn cael gwared ar ddiffyg ariannol Prydain o fewn pum mlynedd.