Y gyllideb sydd wedi cael yr holl sylw heddiw. Yn y cynhadleddau i’r wasg wythnosol bore ma roedd digon o drafod ond heb y ffeithiau moel, doedd dim byd mawr i’w ddweud.

Pwyll piau hi oedd neges y Gweinidog Cyllid ar ran y Llywodraeth. Fydd Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau ar chwarae bach ar gyllideb frys George Osborne ond dyw hi ddim yn credu bod angen cyllideb frys o gwbwl ac yn sicr dim toriadau. Erbyn hyn mae datganiad wedi cyrraedd gan y Llywodraeth yn dweud mai cyllideb fydd yn effeithio ar y tlotaf a’r mwyaf bregus mewn cymdeithas yw hon. Fe fydd mwy ganddyn nhw i’w ddweud ar ôl cyfarfod y Cabinet am 8.30 bore fory.

Pwynt difyr –Jane Hutt yn dweud y bydd hi’n ddig tu hwnt os na fydd Cymru’n cael sylw yn y gyllideb ac yn cwyno am dan-gyllido Cymru o £300 miliwn oherwydd fformiwla Barnett. Mae mabwysiadu bref Plaid Cymru gan Weinidog Llafur fwy i’w wneud â Llywodraeth o liw gwahanol yn San Steffan na pherthynas Llafur â Phlaid Cymru mewn llywodraeth dybiwn i.

Roedd David Melding, y Ceidwadwr hoffus, yn cadw cwmni i Nick Bourne yn ei briffing nhw bore ma. Bu canmol mawr ar berfformiad Cheryl Gillan ar ei hymweliad i drafod araith y Frenhines yn y siambr wythnos diwetha gan yr arweinydd, sôn am y refferendwm (yn gynnar fis Mawrth nesaf plîs -Bourne) a mân drafod ar bosibiliadau’r gyllideb (“Dw i’n disgwyl i warchod pobol fregus i fod yn rhan o’r pecyn” –Bourne)

Edrych mlaen i glywed cadarnhad bod trothwy treth am gynyddu o £1000 oedd Kirsty Williams yn sesiwn y Democratiaid Rhyddfrydol. Wrth adael rhannodd Kirsty bod ffatri hufen iâ ffantastig yn Llanfaes, Brycheiniog. Fydd dim angen hufen ia arni yn y tywydd yma gyda’r ymateb oeraidd i’w phlaid ers y cyhoeddiad bod treth ar werth am gynyddu i 20%. Gan i Roger Williams ddweud wrth y BBC ddydd Sul na fyddai hynny’n beth da, dim syndod bod dim ymateb swyddogol gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar y gyllideb eto.